Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn edrych i recriwtio Cynghorydd Hyfforddiant – Sgiliau Hanfodol (Llythrennedd) i ymuno â'n gwasanaeth Dysgu Gydol Oes.
Ynglŷn â'r rôl
Darparu addysgu a hyfforddiant o ansawdd uchel i ddysgwyr sy’n oedolion ar bob lefel a gallu, gan gynnwys rheolwyr a gweithwyr Cyngor Sir Ceredigion, busnesau lleol, gweithwyr addysgu proffesiynol eraill, dysgwyr o sefydliadau eraill a’r gymuned leol.
Ynglŷn yr ymgeisydd
Rydym yn chwilio am diwtoriaid cymwysedig a hyfedr i gyflwyno cyrsiau llythrennedd oedolion.
Mae cymhwyster addysgu Lefel 4 neu uwch a chymhwyster arbenigedd pwnc Lefel 3 gan Sefydliad Dyfarnu cydnabyddedig yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd gennych o leiaf 4 blynedd o brofiad o ddarparu addysg oedolion, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o dechnolegau dysgu digidol.
Bydd gofyn i chi gynllunio, datblygu, cyflwyno, arfarnu ac asesu dysgu o ansawdd uchel, a defnyddio ystod o ddulliau addysgu ac asesu, gan ddilyn canllawiau sefydliadau dyfarnu.
Oherwydd gofynion y rôl mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â lefel o ruglder yn y Gymraeg ar benodiad. Gweler y fanyleb person am fanylion pellach.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo ymrymwedig i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn cynnig cefnogaeth i’ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu gwneud cynnydd yn eich gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth gynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Alison Newby ar 07805 760467 neu ebost alison.newby@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.