Rydym yn chwilio am Swyddog Datblygu brwdfrydig i ymuno â CERED: Menter Iaith Ceredigion.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am hybu, hyrwyddo a datblygu defnydd yr iaith Gymraeg yng Ngheredigion gan gydweithio yn agos â unigolion, sefydliadau, ysgolion a chymunedau i ddadansoddi anghenion a datblygu a gweithredu gweithgareddau a phrosiectau yn ôl yr angen.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu da a phrofiad o weithio yn gymunedol gyda unigolion o bob oed.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae’r swydd am dri diwrnod yr wythnos am gyfnod penodedig o’r 1af o Ionawr 2027 hyd at y 31ain o Awst 2027.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Non Davies - non.davies@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.