Rydym yn awyddus i benodi Dirprwy CADY ysbrydoledig fydd yn gallu cefnogi yr adran Cynhwysiant er mwyn sicrhau fod yr holl ddisgyblion yn gwneud cynnydd rhagorol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ffynnu ar yr her o weithio gyda’n tîm o athrawon a disgyblion i sicrhau bod yr ansawdd dysgu ac addysgu yn gyson o safon dda a rhagorol; bod yr holl ddisgyblion yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau yn ôl eu anghenion, a bod pob disgybl yn ymgyrraedd yn uchel, yn gwneud cynnydd rhagorol ac yn datblygu eu hyder. Byddwch yn rwymedig i ddod o hyd i ddulliau cynhwysfawr sydd yn ysbrydoli disgyblion ac yn gwella cyfleoedd bywyd ein holl ddisgyblion.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymgeisydd uchelgeisiol gael chwarae rôl allweddol i gynyddu uchelgeisiau a llwyddiannau ein disgyblion, gan ganolbwyntio yn arbennig ar ein disgybion sydd gyda anghenion dysgu ychwanegol, ac felly yn cyfrannu at siwrnai Ysgol Penglais i fod yn ysgol ragorol.
Mae gan Ysgol Penglais lawer i’w gynnig:
Pecyn Gwybodaeth
Am fwy o fanylion, cysylltwch a Helena Clements (PA i’r Pennaeth) ar 01970 624811 neu drwy e-bost hcl@penglais.org.uk
Mae Ysgol Penglais yn ymrwymedig i ddiogelu ac annog budd a lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus, ac yn disgwyl i holl staff a gwirfoddolwyr rannu yr ymrwymiad hwn.
Bydd raid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgeisio am DBS a’r archwiliadau eraill sydd yn addas ar gyfer y swydd.
Mae Ysgol Penglais yn gyflogwr sydd yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.