Rydym am recriwtio unigolyn brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant i ymuno â Thîm Gorfodaeth Cynllunio newydd y Cyngor yn barhaol, llawn amser.
Wrth ffurfio rhan o'r Gwasanaeth Rheoli Datblygu, sy'n delio â dyletswyddau a gofynion statudol o dan y Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref a deddfwriaeth gysylltiedig arall, byddai deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth fonitro a rheoleiddio datblygiadau ar draws y sir.
Mae hwn yn gyfnod arbennig o gyffrous i ymuno â'r Gwasanaeth gan ein bod wrthi'n tyfu'r tîm gorfodaeth cynllunio ar hyn o bryd fel y gallwn ddelio'n well ag achosion o dorri rheolaeth gynllunio ledled y Sir, felly beth am ymuno â ni fel rhan o'r bennod newydd hon?
O ddydd i ddydd, byddwch yn:
Efallai y bydd cyfle hefyd i ddeiliad y swydd ymdrin ag ymholiadau cyn ymgeisio a cheisiadau cynllunio sy'n deillio o achosion gorfodi, er y byddai'r rhan fwyaf o lwyth achosion deiliad y swydd yn cynnwys ymchwiliadau gorfodaeth cynllunio.
Rydym am recriwtio unigolyn:
Mae'r swydd yn gofyn am rywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Noder y bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg angenrheidiol yn cael ei gefnogi'n llawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd i'w benodi.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Efallai y dewch chi hefyd o hyd i fwy o wybodaeth ddefnyddiol ar ein gwefan gyrfaoedd. Yma fe gewch chi fanylion mewn perthynas â'r hyn y gallwn ei gynnig a pha fath o ffordd o fyw y gallwch ei ddisgwyl. Yn wir, mae Ceredigion yn cael ei chydnabod fel un o'r lleoedd mwyaf diogel i fyw a gweithio, gyda diwylliant bywiog, ysgolion ardderchog ac arfordiroedd hardd a chefn gwlad tonnog.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Y Gwasanaeth Cynllunio
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Catrin Newbold (Rheolwr Gwasanaeth – Rheoli Datblygu) ar Ffôn: (01545) 572131.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.