Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu penodi Swyddog ar Ddyletswydd Ochr Sych llawn amser 37 awr yng Nghanolfan Lles Llambed.
Fel prif wasanaeth y Cyngor Sir o ran darpariaeth chwaraeon a hamdden byddwch yn gweithio yn agos gyda’r tim rheoli er mwyn darparu cyfleon i unigolion y Sir er mwyn gwella iechyd a lles ein trigolion.
Mae’r gwasanaeth yn cychwyn ar daith gyffrous wrth i ni trawsnewid i Canolfannau Lles, felly os oes gennych y sgiliau a’r awydd i fod yn rhan o’r daith yma byddem yn croesawi derbyn cais gennych.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r rôl cysylltwch â Rhidian Harries e-bost: Rhidian.Harries@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.