Rydym yn awyddus i benodi athro/athrawes Hanes rhagorol fydd yn gallu cefnogi datblygiad hanes yn yr ysgol er mwyn sicrhau safonau uchel yn y pwnc.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ffynnu ar yr her o weithio gyda’n tîm o athrawon Hanes i sicrhau bod yr ansawdd dysgu ac addysgu yn gyson o safon dda a rhagorol; bod yr holl ddisgyblion yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau Hanes yn ôl eu anghenion, a phob disgybl yn ymgyrraedd yn uchel ac yn datblygu eu hyder. Byddwch yn rwymedig i ddod o hyd i ddulliau cynhwysfawr sydd yn ysbrydoli disgyblion ac yn gwella cyfleoedd bywyd ein holl ddisgyblion.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymgeisydd uchelgeisiol gael chwarae rôl allweddol i gynyddu uchelgeisiau a llwyddiannau ein disgyblion, ac felly yn cyfrannu at siwrnai Ysgol Penglais i fod yn ysgol ragorol.
Mae gan Ysgol Penglais lawer i’w gynnig:
Pecyn Gwybodaeth
Am fwy o fanylion, cysylltwch a Helena Clements (PA i’r Pennaeth) ar 01970 624811 neu drwy e-bost hcl@penglais.org.uk
Mae Ysgol Penglais yn gyflogwr sydd yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.
Cyfweliadau: yr wythnos yn dechrau 20fed Ebrill 2026
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.