Mae cyfle cyffrous wedi codi i recriwtio Swyddog Cymorth i Wasanaethau i strwythur Cymorth Gwasanaeth Corfforaethol ar sail amser llawn, barhaol i gefnogi ardal gwasanaeth Porth Gofal.
Ynglŷn â'r Rôl:
Bydd y Swyddog Cymorth i Wasanaethau yn aelod o’r tîm Taliadau Uniongyrchol, sy’n cefnogi unigolion i gael mwy o ddewis a rheolaeth dros sut y caiff eu hanghenion gofal a chymorth eu diwallu. Bydd y rôl yn darparu ystod amrywiol o gymorth gweinyddol i’r tîm ac yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n esmwyth ac yn effeithlon.
Gweler hefyd: Taliadau Uniongyrchol - Cyngor Sir Ceredigion
Mae hon yn rôl weinyddol amrywiol o fewn tîm Taliadau Uniongyrchol prysur, lle nad oes dau ddiwrnod yn union yr un fath. Byddwch yn darparu cymorth hanfodol i’r tîm, gan gynnwys delio ag ymholiadau dros y ffôn, cynnal cofnodion a thaenlenni, diweddaru systemau TG, rheoli gohebiaeth a chymryd cofnodion mewn cyfarfodydd.
Byddwch hefyd yn cefnogi amrywiaeth o brosesau Taliadau Uniongyrchol, gan gynnwys adolygiadau, adnewyddu Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr a thasgau sy’n ymwneud â Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC), yn ogystal â monitro sianeli cyfathrebu a rennir a chynorthwyo ag anghenion gweinyddol ehangach y tîm.
Ynglŷn â'r Ymgeisydd:
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n meddu ar isafswm lefel o 5 TGAU neu gyfwerth, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch. Bydd angen i’r ymgeisydd fod yn gyfeillgar ac yn barod i helpu, a deall pwysigrwydd darparu gwasanaeth cwsmeriaid da i randdeiliaid mewnol ac allanol.
Mae’r rhinweddau canlynol sy’n ofynnol ar gyfer y swydd yn cynnwys:
Ar adegau, efallai y bydd y rôl yn cefnogi gwasanaethau eraill o fewn y model Llesiant Gydol Oes, felly bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Ein cynnig i chi: Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus, ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fudd-daliadau i gyflogeion, gan gynnwys gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Anwen Thomas, Anwen.Thomas3@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.