Ymunwch â'n Tîm Dysgu a Datblygu prysur a helpwch i sicrhau bod gan ein gweithlu ym maes gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau rhagorol i bobl Ceredigion.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol cymwysedig a chofrestredig, byddwch yn defnyddio eich profiad i ddatblygu a darparu hyfforddiant, cefnogi ein Cynllun ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol dan Hyfforddiant a chydweithio â phartneriaid i ddarparu cyfleoedd dysgu a datblygu o ansawdd uchel.
Mae'r rôl hon hefyd yn cynnig cyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol eich hunan. Os nad oes gennych y cymwysterau perthnasol eisoes, cewch gymorth i ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Addysg Oedolion a Dyfarniad Addysgwr Ymarfer Gwaith Cymdeithasol Lefel 7 (ôl-raddedig) o fewn dwy flynedd i'ch penodiad.
Rydym yn chwilio am gyfathrebwr brwdfrydig, hyblyg a hyderus sydd ag angerdd dros ddysgu a helpu eraill i ddatblygu.
Ein cynnig i chi: Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus, ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fudd-daliadau i gyflogeion, gan gynnwys gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cynhelir cyfweliadau yn wythnos yn dechrau 14.12.2026.
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Vikki Foale - Victoria.Foale@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.