Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae cyfle wedi codi i Swyddog Cymorth i Brosiectau gael ei recriwtio i'r Tîm Swyddfa Prosiect Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol ar sail cyfnod penodol llawn amser tan 31ain Mawrth 2028.
Gellir ystyried cyfle secondiad; fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar drafodaeth a chymeradwyaeth gan eich rheolwr llinell presennol.
Am y rôl
Bydd gan y Swyddog Cymorth i Brosiectau rôl bwysig wrth weithio o fewn Gwasanaethau Amgylcheddol Priffyrdd i gefnogi'r gwaith o gyflawni Rhaglen y Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol.
Drwy Gyd-bwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi sicrhau cyllid grant cyfalaf Llywodraeth Cymru o £6.33 miliwn ym mlwyddyn ariannol 2026-27 i helpu i gyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a gymeradwywyd. Dyma'r flwyddyn gyntaf o gyllid grant y Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol ar gyfer y Rhaglen Bum Mlynedd arfaethedig a gyflwynir yn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, gyda dyraniadau cyllid dangosol hefyd eisoes wedi'u sicrhau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.
Bydd y rôl yn cefnogi swyddogion arweiniol prosiect sy'n gyfrifol am gynllunio a chyflawni amrywiaeth eang o brosiectau a ariennir gan grant, gan gynnwys seilwaith newydd neu well ar draws Sir Ceredigion – megis cerdded a seiclo; diogelwch ar y ffyrdd; cludiant teithwyr; priffyrdd; a gwefru cerbydau trydan. Bydd y rôl hefyd yn cefnogi datblygiad cyfres o brosiectau, y broses ymgeisio ar gyfer sicrhau cyllid yn y blynyddoedd i ddod a gweithgareddau monitro ac adrodd penodol cysylltiedig, gan gynnwys cefnogi swyddogion prosiect arweiniol i baratoi adroddiadau chwarterol ar gyfer Bwrdd Rhaglen Cronfa Trafnidiaeth Ranbarthol Cyngor y Sir, Pwyllgor Cronfa Trafnidiaeth Ranbarthol y Cyd-bwyllgor Corfforedig a Llywodraeth Cymru.
O ddydd i ddydd, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynorthwyo i ddatblygu, monitro a chynnal a chadw dogfennau sy'n gysylltiedig â'r prosiect ac arwain ar amserlennu, gweinyddu a nodi ystod o gyfarfodydd prosiect. Bydd y rôl yn gofyn am gyfathrebu wyneb yn wyneb, yn ysgrifenedig, ar lafar ac yn electronig gydag ystod o randdeiliaid mewnol ac allanol.
Am yr Ymgeisydd:
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n meddu ar isafswm lefel o gymwysterau o'r canlynol:
Mae'r rhinweddau canlynol sy'n ofynnol ar gyfer y swydd yn cynnwys:
Ein cynnig:
Credwn fod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig iawn. Er mwyn eich cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad o’r Swydd a Manyleb y Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod hyn ymhellach, cysylltwch â Meleri.richards@ceredigion.gov.uk
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 20 Orffennaf 2026.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.