Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae swydd wedi codi i benodi Prif Swyddog Cofrestru a Seremoniau – cyfle sydd ddim yn codi’n aml.
Ynghylch y rôl
Rydym yn chwilio am berson hyderus, brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’n tîm cyfeillgar i helpu arwain a datblygu’n gwasanaeth cofrestru sy’n perfformio’n uchel ac sy’n rhoi pwyslais ar y cwsmer.
Fe fydd prif ddyletswyddau’r swydd yn cynnwys cofrestru genedigaethau a marwolaethau yn ogystal ag arwain a chofrestru priodasau a phartneriaethau sifil. Wrth weithio gyda’r Cofrestrydd Arolygol, fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn goruchwylio ac yn cefnogi aelodau o’r tîm i sicrhau bod pob cofrestriad yn cael eu cwblhau’n gywir ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol.
Bydd y rôl amrywiol yn rhoi boddhad a byddwch yn gweithio gyda’r cyhoedd ar adegau nodedig yn eu bywydau - mae pob diwrnod yn wahanol.
Amdanoch chi
Rhaid i’r Prif Swyddog Cofrestru a Seremoniau;
Nid oes rhaid cael profiad blaenorol o weithio mewn gwasanaeth cofrestru oherwydd rhoddir hyfforddiant llawn a pharhaus.
Oherwydd disgwyliadau'r rôl mae'n hanfodol fod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg a Saesneg.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fynychu seremonïau mewn lleoliadau amrywiol ledled Ceredigion felly mae’n rhaid iddo/iddi fod â cherbyd ei hun.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael i weithio’n rheolaidd ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc, ar sail rota yn ddibynnol ar ofynion y gwasanaeth. Rhoddir tâl ychwanegol neu amser o’r gwaith yn lle tâl am yr oriau ychwanegol hyn.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd, cysylltwch â Rhiannon Pugh (Cofrestrydd Arolygol) ar Rhiannon.Pugh@ceredigion.gov.uk
Cynhelir y cyfweliadau ar y 26 ain o Fai 2026.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Bydd angen gwiriad DBS ar gyfer y rôl hon. Sylwch nad yw presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle mae pob unigolyn yn cael ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau ynghylch y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni i gael eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas o'r pwys mwyaf i ni drwy gydol y broses recriwtio.