Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym am recriwtio Cynorthwyydd Tai – Y Gofrestr Tai i ymuno â'n Gwasanaeth Tai.
Bod yn gyfrifol am weinyddu’r Gofrestr Tai Cyffredin, gan gynnwys rhoi cyngor i’r rheini sy’n gwneud cais am dai, ac asesu ceisiadau am dai yn unol â’r polisïau a’r ddeddfwriaeth.
Sicrhau bod y Gofrestr Tai yn gweithredu’n effeithlon, gan gynnwys y weithdrefn enwebu yn ôl y gofyn.
O ddydd i ddydd byddwch yn:
Rydym am recriwtio unigolyn:
Yn ogystal â'r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgil Gymraeg ofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon a ddymunir cyn pen dwy flynedd o'i benodi.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Cerys Purches-Phillips, cerys.purches-phillips@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.