Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae cyfle llawn amser wedi codi yn y Tîm Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer Swyddog Cymorth i Wasanaethau parhaol llawn amser. Mae Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol yn darparu cefnogaeth weinyddol i bob rhan o'r Cyngor ond bydd y rôl hon yn bennaf yn darparu cefnogaeth i'r gwasanaeth Rheoli a Datblygu Asedau, o fewn Uned Twf a Menter y Cyngor Sir, sydd yn ymwneud â defnydd tir ac adeiladau sy'n eiddo i'r Cyngor.
Am y rôl:
Bydd disgwyl i'r Swyddog Cymorth i Wasanaethau gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol sy'n gysylltiedig ag amgylchedd swyddfa prysur, gan gynnwys goruchwylio cyfrifon e-bost; ymateb i alwadau ffôn; ymdrin â gohebiaeth sy'n dod i mewn ac yn mynd allan; trefnu cyfarfodydd; cymryd cofnodion a delio â dyletswyddau gweinyddol sy'n ymwneud â thir ac eiddo i'r cyngor. Bydd hefyd yn ofynnol i ddeiliad y swydd fewnbynnu, diweddaru a thynnu gwybodaeth o systemau TG (yn benodol Rheolwr Asedau, Civica Financials a Civica Purchasing); casglu data gan gynnwys gwybodaeth ariannol; cynnal cofnodion y gronfa ddata electronig a, lle bo'n briodol, gofnodion ar y wefan.
Am yr Ymgeisydd:
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad yn gweithio mewn lleoliad awdurdod lleol/gweinyddol gydag o leiaf 5 TGAU neu gyfwerth. Byddai’r cyfle yn gweddu i rywun sy’n drefnus, sydd â sylw da i fanylion, lefel uchel o lythrennedd cyfrifiadurol, sgiliau cyfathrebu da ac agwedd frwdfrydig a chadarnhaol at waith. Byddai cefndir mewn eiddo yn fantais amlwg.
Mae natur Cymorth Corfforaethol i Wasanaethau yn golygu y bydd angen i'r ymgeisydd fod yn hyblyg ac efallai y bydd gofyniad i gefnogi timau eraill, yn dibynnu ar yr angen. Mae'r swydd yn destun gweithio hybrid a bydd gofyniad i fynychu swyddfeydd y Cyngor i fodloni gofynion y rôl.
Ein cynnig i chi:
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon, ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar gael yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Keith Dale - keith.dale@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.