Gymhwyso yn dechrau ar radd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd. Bydd gweithwyr cymdeithasol profiadol yn dechrau ar radd 10. Gellir cael mynediad i'r ddau ddisgrifiad swydd Gradd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd.
Mae'r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2025.
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a'r ffordd o fyw ragorol y mae'n ei gynnig, cliciwch yma.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn trawsnewid y ffordd y bydd unigolion a theuluoedd yn derbyn cymorth cynnar, gofal a chefnogaeth pan fydd angen y rhain arnynt. Rydym yn datblygu gwasanaethau gydol oed a lles, ffyrdd newydd o weithio ac ystod o fentrau cyffrous a fydd o gymorth i gael cadernid cymunedol ac unigol. Mae hyn hefyd yn golygu ein bod am feithrin gweithlu medrus a hyblyg a all wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl. O dan y modl Newydd yma fydd y tim anableddau yn 1 tim sydd yn cynnwys plant ac oedolion.
Ein nod ar gyfer y dyfodol yw datblygu gwasanaethau gydol oed cydgysylltiedig gyda phwyslais cryf ar atal ac rydym am baratoi staff i gefnogi plant ac oedolion gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau. O ganlyniad i hyn, mae cyfleoedd cyffrous wedi codi am swyddi gweithwyr cymdeithasol â chymhwyster a heb gymhwyster.
Ar hyn o bryd, rydyn yn chwilio am:
Wrth i ni symud ymlaen, bydd y timau cyfredol, penodol i oedran yn uno a bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu gwasanaethau di-dor ac ymestyn gwybodaeth a sgiliau staff. Wrth weithio fel un tîm gofal cymdeithasol byddwn hefyd yn cryfhau ein perthynas ag asiantaethau eraill, megis Iechyd ac Addysg yn ogystal â sefydliadau trydydd sector.
Bydd cyfle hefyd o fewn y Gwasanaethau Cynnal Estynedig i ddatblygu arbenigeddau megis gweithio gydag oedolion neu blant ag awtistiaeth, anableddau dysgu ac anableddau corfforol.
Bydd ymuno â Thîm Ceredigion yn cynnig nifer o gyfleoedd i chi ddatblygu yn broffesiynol, dod â syniadau newydd i'r tîm a chyfrannu'n uniongyrchol at strategaeth y gwasanaeth, gan hyrwyddo'r diwylliant dysgu a myfyrio mewn amgylchedd cefnogol.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso)
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Cymwysedig)
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon ffoniwch Claire James ar Claire.James@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.