Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Os ydych chi’n cael eich ysgogi trwy ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf ac wedi ymrwymo i wella profiad y cwsmer yna hoffem glywed gennych.
Rydym yn chwilio am swyddog Cymorth TGCh brwdfrydig i ymuno â’n tîm cefnogi TGCh. Fel Swyddog Cefnogi TGCh byddwch:
Disgwylir i chi weithio yn bennaf yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Powys, tra hefyd yn ymgymryd a rhai dyletswyddau mewn lleoliadau eraill a gefnogir yn ôl yr angen.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch diddordeb, byddwn yn cynnig cyfle i weithio mewn sefydliad blaengar ac uchelgeisiol. Ar ben hynny, bydd gennych chi:
Am ragor o wybodaeth a/neu drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd, cysylltwch ag Tom Douglas-Jones ar 07966 312392 (thomas.douglas-jones@ceredigion.gov.uk).
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.