Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer dau swydd 30 awr ac un swydd 37 awr. Nodwch yn eich cais a ydych yn gwneud cais am swydd 30 awr, swydd 37 awr, neu’r ddwy.
Ydych chi’n angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau eraill?
Rydym yn chwilio am Berson Hwyluso Gweithgareddau brwdfrydig a chreadigol i ymuno â’n tîm ym Mhorth Gofal.
Yn y rôl werth chweil hon, byddwch yn cynllunio ac yn darparu amrywiaeth o weithgareddau therapiwtig sy’n meithrin lles emosiynol, ymgysylltiad gwybyddol a chysylltiadau cymunedol i’n trigolion o fewn Cartrefi Gofal yr Awdurdod Lleol.
Os oes gennych ddawn i ysbrydoli pobl ac rydych wedi ymrwymo i hyrwyddo profiadau boddhaus mewn amgylchedd cartref gofal, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae angen bod yn hyblyg i weithio rhai nosweithiau, penwythnosau a gwyliau banc.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch âNerys Lewis ar Nerys.lewis2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.