Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn profiadol a brwdfrydig i ymuno â Gwasanaeth Rheoli Datblygu'r Cyngor.
Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am Swyddog Rheoli Datblygu cymwys a phrofiadol, ond rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr sy’n gweithio yn yr amgylchedd adeiledig, sydd â phrofiad / cymwysterau mewn pensaernïaeth, cadwraeth neu’r dreftadaeth adeiledig.
Mae'r swydd yn cynnig ystod o heriau proffesiynol amrywiol, ond hefyd y gallu i ddylanwadu ar ffurf cymunedau ar draws y Sir yn y dyfodol. Drwy fod yn rhan annatod o uchelgais y Cyngor i ddatblygu a gwella ansawdd bywyd a chyfleoedd i'r trigolion, cydnabyddir pwysigrwydd corfforaethol y gwasanaeth. Bydd disgwyl i chi fod yn greadigol, yn arloesol ac yn gallu dod o hyd i atebion.
O ddydd i ddydd byddwch chi’n:
Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn:
Mae'r swydd yn gofyn am rywfaint o ruglder yn y Gymraeg. Sylwch y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus heb y sgil Gymraeg ofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd i'w benodi.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth TîmCeredigion
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Catrin Newbold (Rheolwr Gwasanaeth – Rheoli Datblygu) Rhif Ffon: (01545) 572131.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.