Ydych chi’n chwilio am gyfle i weithio yng nghefn gwlad hyfryd, heddychlon Gorllewin Cymru ar gyfer awdurdod lleol sy’n edrych i’r dyfodol ac sy’n darparu cefnogaeth dda i’w staff?
Mae gennym gyfle yng Ngheredigion ar gyfer recriwtio i swydd Gweithiwr Cymdeithasol Cynorthwyol i weithio gyda phobl ifanc ac oedolion ag anableddau a’u teuluoedd a bydd cyfleoedd i barhau i gefnogi pobl ifanc wrth iddynt dyfu’n oedolion ac i weithio gydag oedolion sydd angen gofal a chymorth wrth inni ddatblygu Tim Anableddau Gydol-Oed.
Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i ddull Arwyddion Diogelwch ac mae wrthi’n trawsnewidio i fodel gydol oed a theulu cyfan fydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd wrth ddatblygu cynlluniau a gwasanaethau i ddiwallu anghenion ac mae hyn wedi arwain at cyfleodd cyffrous ar gyfer cydweithredu gyda adrannau tu fewn yr awdurdod yn ogystal a’n hasiantaethau partner.
Bydd hefyd cyfleodd i arbenigo mewn maes o’ch dewis.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd a rhywfaint o ruglder yn yr iaith Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau iaith Gymraeg gofynnol yn cael cefnogaeth i gyrraedd y safon a ddymunir o fewn 2 flynedd o benodiad.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma.
Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Claire James ar claire.james@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.