Yn barod i helpu i lunio dyfodol gofal preswyl yng Ngheredigion?
Rydym yn chwilio am Reolwr Cofrestredig profiadol ac uchelgeisiol i arwain Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun yn Aberystwyth, cartref gofal preswyl mwyaf Ceredigion, sydd â 90 o leoedd cofrestredig.
Yn dilyn arolygiadau diweddar, cydnabu Arolygiaeth Gofal Cymru fod Hafan y Waun yn wasanaeth sy’n perfformio’n dda. Cafodd pob maes ei raddio’n Dda, gan dynnu sylw at ansawdd y gofal a ddarperir, ymrwymiad y gweithlu a phrofiadau cadarnhaol y preswylwyr a’u teuluoedd. Gan adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn, rydym yn chwilio am arweinydd a all wella ansawdd y gofal ymhellach, cryfhau gwaith partneriaeth a helpu i sefydlu Hafan y Waun yn gartref gofal preswyl sy’n arwain y sector.
Mae hwn yn gyfle unigryw i ddarparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol yng nghartref gofal preswyl mwyaf Ceredigion. Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol, iechyd a’r gymuned ehangach, byddwch yn sbarduno gwelliant parhaus, yn datblygu dulliau arloesol o ddarparu gofal, yn cryfhau’r gwaith partneriaeth gyda’r bwrdd iechyd lleol ac yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i breswylwyr.
Fel rhan o’n hymrwymiad i sicrhau arweinyddiaeth ragorol i Hafan y Waun ac i gefnogi ein huchelgais i sefydlu’r cartref yn wasanaeth sy’n arwain y sector, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn elwa ar:
Os ydych yn frwd dros feithrin ac arwain timau sy’n perfformio’n dda, darparu gofal eithriadol a helpu i lunio pennod nesaf gwasanaeth uchelgeisiol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Pam ymuno â Thîm Ceredigion?
Yn ogystal â chyflog cystadleuol, byddwn yn cynnig y canlynol i’r ymgeisydd llwyddiannus:
Credwn fod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein gweithwyr i ffynnu’n broffesiynol ac yn bersonol.
Os oes gennych brofiad sylweddol o reoli lleoliad gofal preswyl, gymwysterau Lefel 5 perthnasol ac ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, byddem yn croesawu eich cais.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae’r cyflog a hysbysebir yn cynnwys atodiad grymoedd y farchnad o £4,000.
Am ragor o wybodaeth ac i gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Nerys Lewis drwy e-bostio Nerys.Lewis2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.