Sylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â’r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.
Dyddiad Cychwyn: 01/01/2026
Yn sgil cyfle secondiad i’r Dirprwy bresennol, gwahoddir ceisiadau oddi wrth addysgwr ac arweinydd profiadol ar gyfer swydd Ddirprwy Bennaeth yr ysgol.
Mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn ysgol naturiol ddwyieithog, sy’n gwasanaethu ardal eang yng nghanol Ceredigion, gyda bron 600 o ddisgyblion 11-19 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 6ed dosbarth lwyddiannus.
Mae’r Llywodraethwyr am benodi person sy’n meddu’r gallu a’r profiad i fod yn aelod o Dîm Arwain yr ysgol. Chwiliwn am berson sy’n meddu’r gallu i arwain, rheoli, cyfathrebu a chydweithio gydag eraill. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan flaenllaw yn y broses o arfarnu ac hunan-arfarnu gwaith yr ysgol. Disgwylir hefyd arweiniad ynglŷn â materion eraill a phrofiad helaeth o weinyddu ar lefel ysgol gyfan. Ceir safonau uchel o fewn yr ysgol a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus hybu a pharhau i gynnal a chodi ymhellach y safonau hynny.
Bydd disgwyl i’r person a benodir medru cynnig syniadau, datblygu polisïau ac arfarnu’r ddarpariaeth a gynigir gan yr ysgol.
Bydd gan y swydd ystod o gyfrifoldebau sy'n adlewyrchu cryfderau a diddordebau'r ymgeisydd llwyddiannus. Mae hwn yn gyfle gwych i Arweinydd uchelgeisiol ddatblygu o fewn yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol.
Prif ddyletswyddau’r rôl fydd:
Oherwydd natur yr Ysgol a’r swydd, mae angen i’r ymgeisydd fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Os hoffech sgwrs anffurfiol, trefnu ymweliad gyda’r ysgol neu ragor o fanylion ynglŷn â’r swydd cysylltwch â Mr Owain Jones ar 01545 570 217
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.