Rydym am recriwtio Cogydd â Gofal i ymuno â'n tîm yng Nghartref Gofal Preswyl Yr Hafod, Aberteifi, ar gytundeb parhaol, llawn amser.
Mae’r rôl yn cynnwys:
O ddydd i ddydd byddwch yn:
Rydym am recriwtio unigolyn:
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl, a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i'ch galluogi i ymgymryd â meysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu datblygu eich gyrfa gyda ni.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Gaynor Davies 07773 386880
Cynhelir cyfweliadau: o fewn 2 wythnos i’r dyddiad cau
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.