Rydym am recriwtio glanhawr symudol sydd â chefndir glanhau cryf. Lleolir y rôl yn Aberaeron a bydd yn cwmpasu ardal Ceredigion.
Mae'r Gwasanaethau Glanhau yn darparu gwasanaeth hanfodol ledled Sir Ceredigion. Pwrpas y rôl yw cyflawni tasgau glanhau, gan ddarparu gwasanaeth o safon uchel a sicrhau amgylchedd diogel a hylan a cyflenwi absenoldebau salwch a gwyliau blynyddol.
Er y byddai profiad a gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch yn fanteisiol, darperir hyfforddiant llawn. Mae angen sgiliau cyfathrebu da.
O ddydd i ddydd bydd y tasgau yn cynnwys:
Glanhau, golchi, ysgubo, hwfro, gwagio biniau sbwriel, glanhau mannau penodol â chlwtyn gwlyb a’u dwstio (gallai hyn gynnwys ardaloedd y toiledau a chawodydd), gosodiadau a ffitiadau, gan ddefnyddio lle bo'n briodol yr offer pŵer angenrheidiol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig am natur y gwaith gydag agwedd hyblyg ac sy'n gallu cyflawni dyletswyddau amrywiol gydag amserlen waith amrywiol.
Sylwer bydd yr ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg gofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd i'w penodi.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: propertyservices@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.