Rydym yn awyddus i benodi Derbynnydd rhagorol a all weithio yn annibynnol er mwyn rheoli derbynfa hynod brysur, yn ogystal â gweithio fel rhan o’r tîm gweinyddol ehangach. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd deinamig a phrysur iawn, lle mae gallu meddwl a gweithredu'n gyflym ac yn ddigymell yn hanfodol. Bydd disgwyl i chi fod gyda sgiliau cyfathrebu proffesiynol rhagorol; y gallu i flaenoriaethu; bod yn hyblyg a gallu bod gyda meddwl clir tra o dan bwysau. Byddwch yn mwyhau gweithio gyda disgyblion, staff a rhieni ac yn gallu cyfathrebu gwybodaeth mewn modd amserol ac effeithiol.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymgeisydd uchelgeisiol gael chwarae rôl allweddol i gynyddu uchelgeisiau a llwyddiannau ein disgyblion, ac felly yn cyfrannu at siwrnau Ysgol Penglais i fod yn ysgol ragorol.
Mae gan Ysgol Penglais lawer i’w gynnig:
Am fwy o fanylion, cysylltwch a Helena Clements (PA i’r Pennaeth) ar 01970 624811 neu drwy e-bost hcl@penglais.org.uk
Pecyn Gwybodaeth
Mae Ysgol Penglais yn ymrwymedig i ddiogelu ac annog budd a lles plant, pobl ifanc ac oedolion bregus, ac yn disgwyl i holl staff a gwirfoddolwyr rannu yr ymrwymiad hwn.
Bydd raid i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgeisio am DBS a’r archwiliadau eraill sydd yn addas ar gyfer y swydd.
Mae Ysgol Penglais yn gyflogwr sydd yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.
Cyfweliadau: Yr wythnos yn dechrau 7fed Medi 2026
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.