Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer CALU Lefel 4. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, trefnus ac ymroddedig i ymuno â’n tîm fel CALU Lefel 4.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi gweithrediadau ein hadrannau craidd. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar gefnogi ein hadran Saesneg, gan weithio’n agos gyda grwpiau o ddisgyblion ac athrawon blaengar yr adran.
Bydd y rôl yn cynnwys arwain gwaith wedi’i dargedu ar ddatblygu llythrennedd grwpiau o ddisgyblion, gan helpu i gryfhau eu medrau darllen, ysgrifennu a deall. Yn ogystal, bydd y rôl yn cynnwys cefnogi grwpiau o ddisgyblion sy’n ei chael hi’n anodd gyda’u gwaith, a darparu cymorth penodol i ddisgyblion SIY (Saesneg fel Iaith Ychwanegol), gan eu helpu i ddatblygu eu medrau iaith, eu hyder a’u hannibyniaeth mewn amgylchedd cefnogol.
Disgrifiad Swydd
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.