Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae cyfle wedi codi yn Gwasanaeth Canolfannau Lles i benodi aelod o staff i rôl Hyfforddwr Gweithgaredd Corfforol a Chwarae.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd yn ymrwymedig ac yn egniol gyda phrofiad perthnasol yn y sector gweithgaredd corfforol a chwarae gydag sgiliau cyflwyno a chymunedu da.
Cynhelir cyfweliadau ar ddydd Mercher 3ydd Mehefin a bydd y swydd yn dechrau cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r Hyfforddwr Gweithgaredd Corfforol a Chwarae fydd;
I gael gwybodaeth fanwl am y rôl hon, cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person.
Am ragor o wybodaeth neu ymholiadau, peidiwch ag oedi cyn cysylltu mi yn uniongyrchol ar: 07483953592 neu Matthew.Roebuck2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.