Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig gyda chymwysterau a/neu brofiad yn y gwaith o reoli asedau neu eiddo.
Fel Swyddog Asedau Cynorthwyol, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi rheolaeth a chynnal asedau'r cyngor, gan gynnwys tir ac adeiladau. Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys cynorthwyo gydag archwiliadau eiddo, cynnal cofnodion asedau cywir, cydlynu atgyweiriadau a chynnal a chadw, a darparu cymorth gweinyddol i'r tîm Asedau. Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i gyfrannu at reolaeth effeithlon ac effeithiol asedau Cyngor Sir Ceredigion, ac i ddatblygu eich gyrfa yn y sector hwn.
Ymhlith y prif ddyletswyddau mae:
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Bydd angen i chi fod wedi'ch addysgu hyd at lefel gradd mewn maes perthnasol neu feddu ar brofiad perthnasol (o leiaf 4 blynedd) o weithio yn y maes hwn. Yn ddelfrydol, bydd gennych gymhwyster RICS, neu'n gweithio tuag at ennill cymhwyster RICS.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Graeme Lane – Graeme.lane2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.