Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Ymunwch â’n tîm Systemau AD a helpu i gefnogi’r system sy’n sail i gyflogaeth a chyflog ein gweithlu. Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau TG a systemau ymarferol, ynghyd â sgiliau adrodd ar ddata, wrth ennill cymhwyster Lefel 3 cydnabyddedig.
Fel Prentis Gweinyddwr Systemau, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol i gefnogi gweinyddu, cynnal a datblygu system AD a Chyflogres y Cyngor, gan helpu cydweithwyr ar draws y sefydliad wrth feithrin yr wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn gweinyddu systemau.
Y rôl
Byddwch yn cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys:
Y brentisiaeth
Bydd eich prentisiaeth yn para 2 mlynedd ac, ar ôl ei chwblhau’n llwyddiannus, byddwch yn ennill Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Seilwaith Digidol. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o ddysgu yn y gweithle, dysgu ar-lein a gweithdai oddi ar y safle, a all gynnwys teithio achlysurol.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
Pam ymuno â ni?
Yn ogystal ag ennill cymhwyster gwerthfawr a phrofiad ymarferol yn y gweithle, byddwch yn elwa ar:
Gwybodaeth bwysig
Sylwch fod cymhwysedd ar gyfer prentisiaeth yn amodol ar feini prawf y darparwr hyfforddiant. Efallai na fydd ymgeiswyr sydd eisoes â chymhwyster lefel uwch, megis HNC, HND neu radd mewn pwnc sy’n ymwneud â TG, yn gymwys i ymgymryd â’r brentisiaeth hon.
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd am ddechrau gyrfa mewn TG, gweinyddu systemau, data ac adrodd, gan wneud cyfraniad gwirioneddol at y gwasanaethau sy’n cefnogi ein gweithlu.
Gwybodaeth Ychwanegol
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Ceir rhagor o fanylion am y brentisiaeth yma:Peiriannydd Seilwaith Digidol Lefel 3 - Cymhwyster | GCS
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Gwilym Morgan ar Gwilym.Morgan2@ceredigion.gov.uk
Cynhelir cyfweliadau ar:15.09.2026
Nodyn: Rydym yn cadw’r hawl i ymestyn y dyddiad cau.