Ymunwch â'n Tîm fel Cynorthwyydd Arlwyo yng Nghartref Gofal Preswyl Hafan y Waun, Aberystwyth!
Ydych chi'n angerddol am fwyd ac yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth eithriadol? Rydym yn awyddus i recriwtio Cynorthwyydd Arlwyo brwdfrydig i ymuno â’n tîm yng Nghartref Preswyl Hafan y Waun. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan ganolog wrth gynnal y safonau uchaf o wasanaeth, gan sicrhau profiad bwyta cadarnhaol i'n preswylwyr.
Cyfrifoldebau allweddol:
Oriau gwaith:
35 awr yr wythnos ar rota dreigl pythefnos, i gynnwys sifftiau cynnar/hwyr a gweithio ar benwythnosau
Ein hymgeisydd delfrydol
Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi
I gydnabod eich sgiliau a’ch ymrwymiad, rydym yn darparu ystod gynhwysfawr o fuddion cyflogeion, gan gynnwys:
Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod o fuddion gweithwyr ar gael yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y rôl hon, cysylltwch â William Ainsworth ar william.ainsworth@ceredigion.gov.uk / 01970 633001
Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.