Rydym yn edrych i recriwtio Swyddog Ymgysylltu Cyflogaeth a Sgiliau – Dysgu Gydol Oes a Sgiliau i ymuno â'n gwasanaeth Ysgolion, Gydol Oes Dysgu a Diwylliant.
Ynglŷn â'r rôl
Arwain y gwaith o ddatblygu, cydlynu a darparu gweithgareddau ymgysylltu â chyflogwyr, cymunedau ac amlasiantaethau ar draws Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Cryfhau partneriaethau sy'n cefnogi cyflogadwyedd, dysgu a llwybrau cynnydd i oedolion a phobl ifanc yng Ngheredigion.
Hybu ymgysylltiad drwy weithgareddau allgymorth wedi'u targedu, digwyddiadau, marchnata a dulliau sy'n seiliedig ar ddata er mwyn cynyddu cyfranogiad, gwella profiadau dysgwyr a chyflogwyr, a sicrhau bod y ddarpariaeth yn cwrdd ag anghenion y farchnad lafur lleol.
Ynglŷn â'r ymgeisydd
Wedi'ch addysgu i lefel gradd mewn marchnata neu gysylltiadau cyhoeddus, neu fod gennych dros 4 blynedd o brofiad perthnasol ar lefel gyfatebol, bydd gennych ddealltwriaeth dda o brosiectau neu gyllid Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer cymorth cyflogaeth, addysg ôl-16 neu hyfforddiant.
Cefndir cadarn o weithio gydag oedolion a phobl ifanc ar draws sectorau, megis addysg, iechyd, tai, gofal cymdeithasol neu'r sector gwirfoddol yn hanfodol, ynghyd â phrofiad o drefnu neu hwyluso cyfarfodydd amlasiantaeth, fforymau, a digwyddiadau hyrwyddo neu ymgysylltu.
Bydd gennych brofiad o ddatblygu dulliau marchnata a chreu deunyddiau hyrwyddo deniadol a negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag arbenigedd mewn cyflwyno gwybodaeth gymhleth i asiantaethau a sefydliadau allanol.
Oherwydd gofynion y rôl mae'n rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â lefel o ruglder yn y Gymraeg ar benodiad. Gweler y fanyleb person am fanylion pellach.
Mae hon yn swydd gyfnod penodol tan 31/03/2028.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein pobl. Nid yn unig y byddwn yn cynnig cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth ar y cyfrifoldebau allweddol o’r swydd hon yn gyflym ac yn hyderus, ond hefyd, yn eich cefnogi i ddatblygu er mwyn i chi allu gwneud cynnydd yn eich gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth gynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon ffoniwch Alison Newby ar 07805760467 neu ebost alison.newby@ceredigion.gov.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.