Rydym am recriwtio Swyddog Coed a Gwrychoedd parhaol/rhan amser i ymuno â’n Tîm Cadwraeth.
Mae’r rôl yn golygu cynorthwyo’r Awdurdod Lleol yn ei ddyletswydd statudol i warchod Coed a Gwrychoedd o fewn y sir, drwy roi deddfwriaeth statudol berthnasol ar waith, a darparu cyngor a chymorth i amrywiaeth o randdeiliaid ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â choed a gwrychoedd.
Bydd y prif ddyletswyddau’n cynnwys:
Rydym am recriwtio unigolyn sydd â’r rhinweddau canlynol:
Yn ogystal â’r uchod, rydym am gael unigolyn sy’n gymharol rugl yn y Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus sydd heb y sgiliau gofynnol yn y Gymraeg yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ddymunol o fewn dwy flynedd o’r penodiad.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, rydym yn cynnig amryw o fuddiannau ichi fel gweithiwr, gan gynnwys lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddiannau ar gyfer gweithwyr ar gael yma.
Hefyd, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i’ch galluogi i berchnogi prif feysydd cyfrifoldeb y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus, ond rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi’ch datblygiad er mwyn ichi allu symud ymlaen yn eich gyrfa gyda ni.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: alison.heal@ceredigion.gov.uk; sarah.smyth@ceredigion.gov.uk
Dyddiadau cyfweld dros dro: 10fed a / neu 11eg o Hydref.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.