Mae'r hysbyseb hon ar gyfer tair swydd: un swydd barhaol a dwy swydd tymor penodol. Nodwch yn glir yn eich cais a ydych chi'n gwneud cais am y swydd barhaol neu swydd tymor penodol.
Rydym yn chwilio am Syrfëwr / Prisiwr Siartredig proffesiynol llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm Asedau o fewn y Gwasanaeth Economi ac Adfywio. Byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu gwasanaethau prisio a rheoli asedau sy'n cefnogi datblygiad strategol ledled Ceredigion.
Mae'r rôl yn cynnwys:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sydd ag ymwybyddiaeth fasnachol gref, sgiliau trafod, ac angerdd dros gefnogi twf economaidd Ceredigion.
Rydym yn chwilio am rywun sydd: Â Chymwysterau proffesiynol (MRICS + Prisiwr Cofrestredig) Profiadol mewn prisio a rheoli asedau Hyderus yn gweithio'n annibynnol ac yn medru rheoli llwyth gwaith amrywiol Medrus mewn trafod ac ymgysylltu â rhanddeiliaid Ymwybodol o wleidyddiaeth ac â gofal cwsmeriaid da Yn gallu teithio ledled y sir yn ôl yr angen (trwydded yrru lawn y DU)
Mae sgiliau iaith Gymraeg ar Lefel 3 yn hanfodol wrth benodi neu rhaid eu cyflawni o fewn dwy flynedd.
Beth rydym yn ei gynnig
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Helpwch ni i lunio dyfodol amgylchedd adeiledig Ceredigion!
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch âGraeme Lane ar Graeme.Lane2@ceredigion.gov.uk
Dyddiad y cyfweliad: 02.04.2026
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.