Ydych chi'n awyddus i ddechrau gyrfa ym maes cynllunio? Yn barod i helpu i lunio dyfodol Ceredigion? Â diddordeb yn y ffordd mae trefi, pentrefi a chymunedau'n tyfu ac yn datblygu?
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac uchelgeisiol i ymuno â'n Gwasanaeth Cynllunio fel Hyfforddai Graddedig. Mae hwn yn gyfle gwych i gael 12 mis o brofiad ymarferol mewn amgylchedd cynllunio proffesiynol, gan weithio ar brosiectau go iawn sy'n gwneud gwahaniaeth i gymunedau ledled y sir. Byddwch hefyd yn cael cefnogaeth i gwblhau cymhwyster rheoli prosiectau PRINCE2 achrededig a rhoi'r hyn a ddysgir ar waith wrth gefnogi blaenoriaethau'r gwasanaeth.
Mae'r Gwasanaeth Cynllunio, sy'n ymdrin â dyletswyddau a gofynion statudol o dan y Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref a deddfwriaeth berthnasol arall, yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau cydbwysedd rhwng datblygu, gwarchod yr amgylchedd a thwf economaidd. Gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr cynllunio proffesiynol profiadol, byddwch yn datblygu sgiliau ac arbenigedd ymarferol yn y maes, gan adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes cynllunio.
Beth fyddwch chi'n ei wneud?
Pwy ydym ni'n chwilio amdano?
Mae'r swydd hon yn gofyn am lefel benodol o ruglder yn y Gymraeg. Fodd bynnag, os nad ydych yn cyrraedd y safon ofynnol ar hyn o bryd, byddwn yn eich cefnogi'n llawn i'w chyflawni ar ôl cael eich penodi.
Beth ydyn ni'n cynnig i chi?
Os ydych yn barod i ddechrau gyrfa lle gallwch wneud gwahaniaeth parhaol i gymunedau, tirweddau a dyfodol Ceredigion, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gwybodaeth Ychwanegol
Am wybodaeth fanwl am y rôl hon, cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd a'r Fanyleb Person. Gallwch hefyd ddysgu mwy am y Gwasanaeth Cynllunio a gweithio gyda Thîm Ceredigion yma. Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Hyfforddeion Graddedig ar gael yma hefyd.
Am sgwrs anffurfiol am y cyfle, cysylltwch â Catrin Newbold (Rheolwr Gwasanaeth – Rheoli Datblygu) ar (01545) 572131.
Cynhelir cyfweliadau o bell ar ddydd Iau, 6 Awst 2026.
Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn destun dyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd heb ei gytuno eto. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd dyfarniad wedi'i gytuno.