Mae cyfle wedi codi i Uwch Swyddog Cymorth i’r Gwasanaethau gael ei recriwtio i'r strwythur Cymorth Gwasanaethau Corfforaethol. Mae hon yn swydd barhaol amser llawn, a fydd yn darparu swyddogaeth cymorth gweinyddol ystwyth ar draws yr Awdurdod, gyda ffocws penodol ar gymryd cofnodion dwyieithog o safon uchel.
Ynglŷn â'r Rôl:
Bydd y rôl yn bennaf yn darparu cymorth i'r Rhaglen Llesiant Gydol Oes, gydag un o'r prif gyfrifoldebau yn canolbwyntio ar gymryd cofnodion cyfrinachol i gefnogi swyddogaethau fel Panel Amddiffyn Oedolion, Amddiffyn Plant a Maethu. Bydd gofyniad ehangach hefyd i ddarparu cymorth gyda Chyfarfodydd Disgyblu Adoddau Dynol a chyfarfodydd aml-asiantaeth cymhleth eraill, yn ôl yr angen.
Ynglŷn â'r Ymgeisydd:
Rydym yn chwilio am ymgeisydd sydd wedi'i addysgu i NVQ 4 mewn Gweinyddu Busnes neu sydd â phrofiad cyfatebol. Bydd pedair blynedd o brofiad o weithio mewn lleoliad gweinyddol, gyda chefndir cryf mewn cymryd cofnodion yn hanfodol. Rhaid i chi fod â sgiliau TG da ac ymagwedd fethodegol at waith, gyda sylw rhagorol i fanylion. Bydd y gallu i weithio o dan bwysau i gwrdd â therfynau amser a gweithio o fewn timau amlddisgyblaethol hefyd yn bwysig.
Bydd angen i'r ymgeisydd fod yn hyblyg ac medru addasu, gan y bydd gofyniad i'r deiliad swydd symud rhwng timau, yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth ac i reoli llwythi gwaith cynyddol. Bydd y gallu i fodloni'r lefelau ALTE Cymraeg gofynnol hefyd yn hanfodol.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Roz Evans: roz.evans@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.