Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn llawn cymhelliant a brwdfrydedd i gynorthwyo'r Prif Archwilydd Mewnol i arwain Archwilio Mewnol.
Fel rhan o wasanaeth Cyfreithiol a Llywodraethu'r Cyngor, mae'r swydd hon yn cynnig cyfle unigryw i ddylanwadu ar drefniadau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol ar draws y Cyngor, tra'n cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel i drigolion Ceredigion.
Mae hon yn swydd dilyniant gyrfa, lle mae'r radd yn adlewyrchu'r lefel gymhwyster a gyflawnwyd ar gyfer yr unigolyn yn y swydd.
Ynglŷn â'r rôl
Fyddwch yn:
Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn:
Mae'r swydd yn gofyn am rywfaint o rhuglder yn yr iaith Gymraeg. Sylwch y bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg angenrheidiol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd ar ôl ei benodi.
Ein cynnig i chi
Credwn fod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig iawn. Er mwyn eich cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein buddion eang i weithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Cyfweliadau
Er mwyn lleihau tarfu ar ymgeiswyr, bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal o bell.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae diogelu oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod ac yn cydnabod bod ganddynt hawl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu eu lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn, a bydd angen gwiriad safonol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon, cysylltwch ag Alex Jenkins ar 01970 633323 neu e-bostiwch alex.jenkins2@ceredigion.gov.uk
Nodyn: Rydym yn cadw'r hawl i ymestyn dyddiad cau'r cais.