Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth: Galluogi Gofal drwy Dechnoleg a Gwasanaethau Synhwyraidd, ar gontract parhaol, o dan gyfarwyddyd cyffredinol y Rheolwr Tîm Galluogi Gofal drwy Dechnoleg a Gwasanaethau Synhwyraidd, sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Byw'n Annibynnol Penmorfa, yn Aberaeron.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am drefnu a chynnal y gwaith o ddosbarthu a gosod offer Teleofal a Thechnoleg Gynorthwyol yng nghartrefi pobl a lleoliadau gofal. Bydd hefyd yn cefnogi preswylwyr sy'n ymweld â Chanolfan Byw'n Annibynnol Penmorfa.
Rydym am recriwtio unigolyn sydd â:
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac eiddgar sy'n mwynhau gweithio fel rhan o dîm ac sydd â gwir angerdd dros helpu pobl i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cymunedau.
Ar ben hynny, bydd gennych chi:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Andy Cox - 01970 633335 / Andy.Cox2@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.