Ynglŷn â’r rôl
Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Data Gwasanaethau Etholiadol i ymuno â’n tîm brysur i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r gwaith o ddarparu Gwasanaeth Etholiadol cywir, effeithlon ac o ansawdd uchel. Byddwch yn defnyddio eich sgiliau rheoli a dadansoddi data i helpu i gynnal y gofrestr etholiadol, cefnogi etholiadau a refferenda, a sicrhau bod gwybodaeth etholiadol yn gywir, yn gyflawn ac yn gyfredol.
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd â sylw rhagorol i fanylder, dull trefnus o weithio a diddordeb mewn defnyddio data i gefnogi gwasanaethau statudol pwysig. Bydd angen i’r rôl fod yn hyblyg i weithio oriau ychwanegol, gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau, yn ystod etholiadau a chyfnodau prysur.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Glynis Davies, Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol, drwy e-bostio Glynis.davies@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.