Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am unigolyn profiadol ac ymroddedig i arwain gwasanaethau Safonau Masnach a Thrwyddedu y Cyngor.
Y Rôl
Fel y Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu, byddwch yn ymgymryd â rôl gweithredol i arwain a rheoli er mwyn sicrhau bod gwasanaethau Safonau Masnach a Thrwyddedu yn cael eu darparu’n effeithiol yn unol â gofynion statudol ac i integreiddio gwaith y gwasanaethau hyn o fewn fframwaith corfforaethol, polisïau, gwerthoedd, arferion a blaenoriaethau’r Cyngor.
Yn ogystal, bydd y rôl hon yn cynnwys cyflawni cyfrifoldebau statudol y Cyngor fel Prif Arolygydd Pwysau a Mesurau, Swyddog Safonau Bwyd Arweiniol a Swyddog Bwyd Anifeiliaid Arweiniol.
Amdanoch chi
Er mwyn rhagori yn y rôl yma bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
O ddydd i ddydd byddwch chi’n:
Beth allwn ni ei gynnig?
Gallwn gynnig ystod o fanteision i chi fel gweithiwr am eich sgiliau a’ch ymrwymiad:
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Os hoffech chi drafodaeth anffurfiol am y rôl yma mae croeso i chi gysylltu â Carwen Evans, Rheolwr Corfforaethol Amddiffyn y Cyhoedd - Carwen.Evans@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.