Ffederasiwn Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn.
Dymuna’r Corff Llywodraethu benodi athro/athrawes frwdfrydig ac ymroddgar i ymuno â’n ffederasiwn llwyddiannus a chefnogol o fis Ionawr tan mis Gorffennaf.
Bydd y rôl yn cynnwys addysgu yn Nosbarth Derbyn Ysgol Penrhyn-coch ac mewn un dosbarth arall ar draws y ffederasiwn, gan gefnogi trefniadau sy’n sicrhau amser arweinyddiaeth ar gyfer aelodau’r uwch-dîm rheoli.
Rydym yn chwilio am ymarferydd rhagorol sy’n:
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Byddai gallu chwarae’r piano neu gyfrannu at fywyd cerddorol yr ysgol yn fantais, ond nid yw’n hanfodol.
Rydym yn cynnig:
Mae hon yn gyfle cyffrous i ymuno â ffederasiwn blaengar sy’n ymroddedig i ddarparu profiadau cyfoethog ac ysgogol i bob dysgwr.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Cysylltwch â ni
Croesewir unrhyw ymgeisydd i gysylltu â’r Pennaeth, Miss Catryn Lawrence, ar 01970 880277 am ragor o wybodaeth.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.