Rydym yn recriwtio Rheolwr Corfforaethol: Refeniw, Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol i ddod i ymuno â'n gwasanaeth Cyllid a Chaffael.
Ynglŷn â'r rôl
Swydd y Rheolwr Corfforaethol: Refeniw, Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol yw bod yn brif gynghorydd proffesiynol y Cyngor ar gyfer yr holl faterion sy'n ymwneud â Threth y Cyngor, Ardrethi Annomestig, Budd-daliadau Tai a Diwygio Lles ac Asesiadau Ariannol Gofal Cymdeithasol.
Yn ogystal ag arwain y Gwasanaeth Refeniw, Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol, bydd deiliad y swydd yn cael y cyfle i weithio mewn modd corfforaethol ar draws holl Wasanaethau'r Cyngor - gan gyfrannu at fentrau a datblygiadau ar traws-wasanaeth a dod yn rhan allweddol o Dîm Ceredigion.
Mae'r rôl yn gweithredu mewn amgylchedd deinamig cyflym lle mae sgiliau arweinyddiaeth, awydd i wneud gwahaniaeth a ffocws cryf ar y cwsmer yn hanfodol - gan mai eich cwsmeriaid yw'r trigolion a'r busnesau yng Ngheredigion.
Os ydych chi'n ymarferydd profiadol sydd eisoes mewn rôl rheoli ac eisiau gweithio i Gyngor sy'n hapus yn herio'r norm ac yn ymdrechu i wneud gwelliant ac arloesi’n barhaus, yna gallai'r rôl hon fod i chi.
Ein cynnig i chi
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig amrywiaeth o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans cystadleuol o ran gwyliau blynyddol, buddion teuluol gwell, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles gweithwyr.
Credwn fod cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn bwysig iawn. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am ein buddion eang i weithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon, cysylltwch â Mr. Duncan Hall (Swyddog Arweiniol Corfforaethol Gweithredol: Cyllid a Chaffael) ar: 01970 633121 neu e-bost: duncan.hall@ceredigion.gov.uk
Disgwylir cynnal cyfweliadau ar 21 Mai 2026.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.