Rydym am recriwtio glanhawr i ymgymryd â’r amrywiol gyfrifoldebau glanhau yn Ysgol Gyfun Aberaeron i sicrhau bod yr Ysgol yn cael ei chadw mewn cyflwr glân a llanwedd.
Pwrpas y rôl yw ymgymryd â thasgau glanhau, gan ddarparu gwasanaeth o safon uchel gan sicrhau amgylchedd diogel ac yn lanwedd.
Er y byddai profiad a gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch yn fanteisiol, darperir hyfforddiant llawn.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig am natur y gwaith. Mae’n rhaid i’r unigolyn feddu ar sgiliau cyfathrebu da a rhaid iddynt allu cyflawni gwahanol ddyletswyddau gydag amserlen waith amrywiol.
15 awr y wythnos Oriau rwng 3.15yp – 6.15yp, Llun – Gwener, Amser Tymor.
Bydd y tasgau o ddydd i ddydd yn cynnwys y canlynol:
Glanhau; golchi; brwsio; hwfro; gwacáu biniau sbwriel; sychu mannau penodol â chlwtyn gwlyb a’u dwstio (gallai hyn gynnwys ardal y toiledau a’r cawodydd) gan gynnwys gosodiadau a ffitiadau; defnyddio’r cyfarpar/offer trydanol angenrheidiol lle bo hynny’n briodol.
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon, darllenwch y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Michelle Davies ar DaviesM2266@ygaberaeron.org.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.