Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Rydym am recriwtio Rheolwr Cofrestredig dros dro ar gyfer Cartref Gofal Preswyl Yr Hafod, gan weithio ar sail shifft bob yn ail wythnos dros gyfnod o saith diwrnod.
Mae Cartref Gofal Preswyl Yr Hafod yn cynnig 28 o leoliadau preswyl gan gynnwys tymor byr, dros dro, parhaol a seibiant.
Mae'r cartref hefyd yn darparu nifer fach o gyfleoedd Gofal Dydd. Fel Rheolwr Cofrestredig bydd gennych brif gyfrifoldeb rheoli am wasanaethau'r cartref, gan sicrhau ymrwymiad llawn i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y cleient yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, a Rheoliad a Deddf Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).
O ddydd i ddydd byddwch yn:
Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn sydd â phrofiad goruchwylio / rheoli blaenorol gyda'r gallu i ddatblygu gwasanaethau arloesol sy'n canolbwyntio ar y cleient ar gyfer pobl hyn. Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol NVQ 4 / QCF 5 mewn Rheoli Gofal neu'n astudio tuag at y cymhwyster ac yn gallu tystiolaethu profiad o:
Gall yr uwch reolwyr ddweud wrthych am weithio yn unrhyw un o Gartrefi Gofal Preswyl yr Awdurdod Lleol ar fyr rybudd os oes angen gwneud hynny i sicrhau diogelwch y gwasanaeth.
Yn ogystal â'r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgil Gymraeg ofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon a ddymunir cyn pen dwy flynedd o'i benodi.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma.
Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Os hoffech drafod y rôl neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Gareth Hughes ar 01545 572672.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.