Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion fel Uwch Swyddog Mewnwelediad a Datblygu Ieuenctid. Byddwch yn arwain gwaith perfformiad, dadansoddi data, sicrhau ansawdd a gwella gwasanaethau ar draws Cyfiawnder Ieuenctid, y Gwasanaeth Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar ac Atal. Bydd y rôl yn cydlynu adrodd statudol, nodi anghenion a thueddiadau, mesur canlyniadau a sicrhau bod tystiolaeth yn llywio cynllunio a datblygu gwasanaethau.
Rydym yn chwilio am unigolyn dadansoddol, trefnus a chydweithredol sydd â phrofiad o werthuso gwasanaethau, sicrhau ansawdd neu reoli perfformiad, ac sy’n gallu cyflwyno gwybodaeth gymhleth yn glir i ystod o randdeiliaid.
Bydd y swydd yn rhan o’r Tîm Llwybrau Cymorth ac yn cefnogi’r gwaith o sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir.
Ein cynnig i chi: Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus, ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â’ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fudd-daliadau i gyflogeion, gan gynnwys gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
I gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Lorraine Davies, Rheolwr Tim, ar 07969 918492 neu trwy ebost Lorraine.davies@ceredigion.gov.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.