Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol
(Llawn amser 37 awr yr wythnos Llun-Gwener Swydd barhaol). Gellir ystyried oriau gwaith eraill ar gyfer yr ymgeisydd cywir.
GwasanaethTherapi Galwedigaethol Cyngor Sir Ceredigion.
Mae hon yn rôl i ddychwelyd fel Ymarferydd Therapi Galwedigaethol cymwysedig. Gweler isod am ragor o wybodaeth.
Rydym yn dîm sy'n frwd dros ddefnyddio Therapi Galwedigaethol i helpu pobl i fyw bywydau mwy ystyrlon. Yn dilyn adolygiad diweddar o'r gwasanaethau Therapi Galwedigaethol o fewn Cyngor Sir Ceredigion, mae strwythur gwasanaeth newydd wedi'i ddatblygu. Mae’r gwasanaethau cymunedol oedolion a phediatreg nawr yn gweithio o dan yr un strwythur rheoli o fewn Model Gydol Oes a Llesiant Ceredigion.
Mae'r rôl Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol hon o dan y tîm Oedolion cymunedol.
Rydym yn credu’n gryf mewn darparu gwasanaeth o ansawdd i bobl Ceredigion sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'r persbectif unigryw y mae ein proffesiwn yn ei gynnig i'r sefydliad ehangach. Credwn fod gan bawb yr hawl i gyrraedd eu potensial llawn ar bob cam yn eu bywyd. Fel tîm rydym yn falch o'n diwylliant cefnogol ac yn ceisio rhannu ein cryfderau, ein sgiliau proffesiynol, a'n gwybodaeth eang – yn ein gwasanaeth therapydd galwedigaethol uniongyrchol a chyda chydweithwyr y tîm amlddisgyblaethol.
Fel Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol, gallwch ddisgwyl derbyn goruchwyliaeth a chymorth i ddatblygu'r sgiliau arbenigol sy'n angenrheidiol ar gyfer eich rôl.
Eich ffocws yn y tîm fydd:
Fel Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol, dylech fod â dealltwriaeth sylfaenol o'r proffesiwn Therapydd Galwedigaethol. Mae profiad blaenorol o weithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Byddem yn eich annog i ddefnyddio'r adnoddau ychwanegol isod cyn gwneud cais.
Fel Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol, byddwch yn ymrwymedig i weithio yn unol â gweledigaeth Ceredigion i ganiatáu i bobl ddatblygu'r sgiliau a'r gwydnwch sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau cyflawn a chyflawni eu nodau. Byddwch yn awyddus i ddysgu a rhannu eich profiad. Yn bennaf oll, dylech fod mor frwd â ni dros arloesi, gwaith tîm, a darparu gwasanaeth o ansawdd sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym yn gweithio fel tîm, rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfraniad a photensial pob aelod o'r tîm.
Dychwelyd at Ymarfer Therapi Galwedigaethol cymwysedig:
Rydym yn eich croesawu i wneud cais os ydych wedi cymhwyso fel Therapydd Galwedigaethol o'r blaen ac mae eich cofrestriad Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) wedi dod i ben. Dylech barhau i fodloni'r meini prawf gwaith hanfodol. Gallwn eich cefnogi i weithio tuag at ailgofrestru ac, yn y dyfodol, pan fydd swyddi gwag ar gael, i wneud cais am rolau Therapi Galwedigaethol arbenigol cymwysedig o fewn y tîm (yn amodol ar gyflawni cymwyseddau penodol). Mae hwn yn gyfle unigryw i symud ymlaen tuag at rôl arbenigol mewn Therapi Galwedigaethol.
Os ydych chi'n rhannu ein gwerthoedd, cysylltwch i drafod y cyfle cyffrous hwn, neu gwnewch gais nawr. Mae'r rôl hon yn elwa o:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth neu os hoffech drafod y cyfle hwn, cysylltwch â: Steven Elliott, Rheolwr Tîm. Steven.Eliott@ceredigion.gov.uk
Adnoddau defnyddiol:
Proffil Gyrfa - Gwasanaethau Cymdeithasol Therapi Galwedigaethol - RCOT
Sut i ddod yn Weithiwr Cefnogi Therapi Galwedigaethol - RCOT
Trasolwg - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant… | Gofal Cymdeithasol Cymru
Therapi Galwedigaethol, BSc (Anrh) - Prifysgol Abertawe
Therapi Galwedigaethol - Prifysgol Wrecsam
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.