Rydym am recriwtio Swyddog Tai – Opsiynau Tai (Llety Brys a’r Sector Rhentu Preifat) i ymuno â'n Gwasanaeth Tai ar gytundeb parhaol, amser llawn.
Ymdrin ag ystod amrywiol o sefyllfaoedd a phroblemau cymhleth yn unol â gofynion statudol Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Cymryd camau priodol i atal neu i leddfu digartrefedd, a llunio atebion ymarferol drwy ddarparu ymyriadau amserol, cyngor cynhwysfawr am dai, gwybodaeth, ac eiriolaeth.
Pan nad oes modd atal rhywun rhag bod yn ddigartref, ymchwilio i geisiadau digartrefedd a phenderfynu yn eu cylch yn unol â’r ddeddfwriaeth, gan ystyried y gyfraith achosion berthnasol.
O ddydd i ddydd byddwch yn:
Rydym am recriwtio unigolyn:
Yn ogystal â'r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgil Gymraeg ofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon a ddymunir cyn pen dwy flynedd o'i benodi.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi i weithwyr gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Kat Sokolwska-John on 01970 633 396 neu Katarzyna.Sokolowska-John@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.