Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymarferwyr ysbrydoledig a brwdfrydig sydd am fod yn rhan o siwrnai barhaus ein hysgol. Mae Ysgol Henry Richardyn ysgol pob oed sy’n gwasanaethu cymuned wledig fywiog yng nghanol Cymru. Wedi’i seilio ar draddodiad cryf o ofal, safonau uchel a pherthnasoedd cadarn.
Mae ein hysgol yn lle croesawgar a chynhwysol i weithio, wedi’i nodweddu gan ymdeimlad cryf o gymuned, cydweithredu a balchder lleol. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu profiadau dysgu ystyrlon a chyfleoedd eang i’n disgyblion, gan feithrin uchelgais, hyder a pharch tuag at eu hunain ac eraill.
Lleolir yr ysgol yn nhref hanesyddol Tregaron, yng nghalon Ceredigion, gan gynnig amgylchedd unigryw o gefn gwlad hardd ond hefyd hygyrchedd rhesymol i drefi cyfagos megis Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan. Mae hyn yn gwneud yr ysgol yn le delfrydol i weithio i’r rhai sy’n gwerthfawrogi cydbwysedd rhwng bywyd gwaith a bywyd personol mewn lleoliad cefnogol.
Mae’r ysgol chwilio am arweinydd brwdfrydig, gweledigaethol ac ymroddedig i ymuno â’n hysgol fel Pennaeth Saesneg, Ieithoedd Rhyngwladol a Llythrennedd erbyn Medi 1af, 2026. Bydd y rôl allweddol hon yn cynnig cyfle cyffrous i arwain a datblygu maes dysgu a phrofiad ar draws yr ysgol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain, datblygu a sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel i ddisgyblion 7–16 oed ym maes Saesneg, ieithoedd rhyngwladol a llythrennedd. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu’n strategol at wella safonau, hyrwyddo cariad at ieithoedd, a sicrhau profiadau dysgu ysbrydoledig a chynhwysol i bob dysgwr. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus addysgu Saesneg hyd at lefel TGAU. Gellir ystyried ceisiadau i gyflawni’r rôl hon ar sail ran-amser, ar yr amod nad yw’r cytundeb yn llai na 0.8.
Pecyn Gwybodaeth
Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Phennaeth Ysgol Henry Richard, Mr Dorian Pugh, ar pughd22@henryrichard.ceredigion.sch.uk neu ar 01974298231.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.