Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Adnabod Aberystwyth, Ceredigion a Chymru’n dda? Efallai bod hyn yn gyfle i chi.
Mae Gwasanaeth Twristiaeth Ceredigion yn awyddus i benodi person brwdfrydig, trefnus a chroesawgar i ymuno â thîm prysur Canolfan Croeso Aberystwyth fel Cynorthwydd Croeso dros gyfnod yr haf.
Mae’r tîm Croeso yn darparu cymorth a gwybodaeth i ymwelwyr a thrigolion lleol am y dref, yr ardal a thu hwnt, ac yn gwasanaethu Siop Amgueddfa Ceredigion sydd ar yr un safle yng nghanol tref Aberystwyth.
Mae’r Ganolfan Croeso ar agor i’r cyhoedd rhwng 10:00 - 17:00, dydd Llun tan ddydd Sadwrn (Sadyrnau ar rota).
Mae hwn yn gyfle da i rhywun sydd yn awyddus i ddatblygu gyrfa mewn marchnata twristiaeth/lletygarwch. Byddai’r gallu i gyfathrebu mewn iaith dramor o fantais.
Gan taw contract penodol dros dro yw hwn, prif swyddogaeth y swydd hon fydd cyflenwi pan fydd swyddogion twristiaeth eraill yn absennol a chyflenwi dros gyfnodau prysur. Felly bydd yr oriau gwaith yn amrywiol ac yn anodd i’w rhagweld. Nid oes oriau penodol ar gyfer pob wythnos a chynigir y swydd “yn ôl y galw”.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Am fwy o fanylion cysylltwch â Eirlys Lloyd - Eirlys.lloyd@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.