Ymunwch â'n Tîm
Rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth Taliadau Uniongyrchol tosturiol, trefnus ac sydd â chymhelliad, i ymuno â'n tîm. Mae'r rôl yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n angerddol am gefnogi unigolion i gynnal annibyniaeth a dewis trwy wasanaethau cymorth effeithiol o ran taliadau uniongyrchol.
Lleoliad
Hybrid / Penmorfa, Aberaeron neu Canolfan Rheidol, Aberystwyth
Ynglŷn â'r Rôl
Fel Swyddog Cymorth Taliadau Uniongyrchol, byddwch yn gweithio'n agos gyda defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, teuluoedd a sefydliadau partner i roi arweiniad a chymorth ynghylch taliadau uniongyrchol a threfniadau gofal wedi'u personoli.
Byddwch yn helpu unigolion i ddeall a rheoli eu pecynnau taliadau uniongyrchol, gan sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a hyrwyddo annibyniaeth, urddas a dewis.
Cyfrifoldebau Allweddol
Gofynion
Buddion
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cysylltwch â ni
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Rheolwr y Tîm Lis Cooper 01545 572433 neu lis.cooper@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.