Ynglŷn â'r rôl
Ydych chi'n angerddol am gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i gyflawni canlyniadau cadarnhaol?
Rydym yn awyddus i recriwtio Cydlynydd – Canolfan Gymorth ac Adnoddaui ymuno â'n Tîm Cymorth Rhianta a Theuluoedd o fewn y gwasanaeth Porth Cymorth Cynnar ar sail cytundeb cyfnod penodol tan 1 Medi 2027. Mae hwn yn gyfle amrywiol a gwerth chweil lle byddwch yn helpu i sicrhau bod plant a theuluoedd ledled Ceredigion yn cael y cymorth, yr adnoddau a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Gan weithio fel rhan o Dîm Ceredigion ochr yn ochr â sefydliadau partner, byddwch yn cyfrannu at ddarparu gweithgareddau ac ymyriadau sy'n gwella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, gan helpu i feithrin gwytnwch a darparu cymorth ymarferol pan fo'i angen fwyaf.
Byddwch yn cydlynu gweithrediad dydd i ddydd Canolfan Deulu Penparcau, gan helpu i greu amgylchedd croesawgar, diogel ac effeithiol i blant, teuluoedd, staff ac ymwelwyr. Byddwch hefyd yn arwain ar reoli a monitro'r adnoddau a ddefnyddir ar draws y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar, gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n effeithiol i ddiwallu anghenion ein cymunedau.
Mae'r rôl yn cynnwys cefnogi a goruchwylio gweithgareddau gyda phlant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd, cydlynu staff a gwirfoddolwyr, monitro adnoddau a chyllidebau, a gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o weithwyr proffesiynol a sefydliadau i ddarparu gwasanaethau a chymorth o ansawdd uchel.
Ynglŷn â chi
Rydym yn chwilio am rywun sy'n mwynhau gweithio gyda phobl, sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac sy'n gallu meithrin perthnasoedd cryf gyda phlant, teuluoedd, cydweithwyr ac asiantaethau partner. Bydd gennych NVQ Lefel 4 mewn Rheolaeth Fusnes (neu gymhwyster cyfatebol) neu o leiaf dair blynedd o brofiad perthnasol.
Byddwch yn gyfathrebwr trefnus ac effeithiol gyda'r gallu i arwain a chefnogi staff a gwirfoddolwyr, datblygu partneriaethau cadarnhaol, rheoli adnoddau a llwythi gwaith, a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion plant a theuluoedd. Bydd gennych sgiliau TG cryf, dealltwriaeth o ddiogelu a deddfwriaeth berthnasol, yn ogystal â dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant.
Mae'r gallu i deithio ledled Ceredigion a chludo defnyddwyr gwasanaeth yn ôl yr angen yn hanfodol i'r rôl hon. Rhaid i ymgeiswyr gael mynediad at drafnidiaeth addas.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Cymraeg. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu neu wella ei sgiliau Cymraeg yn cael cymorth yn ystod amser gwaith i'w helpu i gyrraedd y safon ofynnol.
Beth rydym yn ei gynnig i chi
Yn Nhîm Ceredigion, rydym am i'n pobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi ac yn gallu gwneud eu gwaith gorau. Dyna pam rydym yn buddsoddi mewn dysgu a datblygu, yn annog ffyrdd hyblyg o weithio lle bo hynny'n bosibl, ac yn creu cyfleoedd i bobl ddatblygu eu sgiliau a'u profiad.
Yn gyfnewid am eich ymrwymiad, byddwch yn elwa ar hawliau gwyliau hael, polisïau teuluol estynedig, cymorth iechyd a lles, gostyngiadau a chynilion ffordd o fyw, ynghyd â mynediad at amrywiaeth o gyfleoedd datblygu.
Er mwyn eich helpu i gydbwyso gwaith ac ymrwymiadau personol, rydym hefyd yn cynnig:
Gallwch ddysgu mwy am fanteision gweithio i Dîm Ceredigion yn ein pecyn gwybodaeth isod.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym yn hapus i ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n dymuno gweithio'n rhan-amser, drwy drefniant rhannu swydd neu ar sail tymor ysgol yn unig. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dymuno ymgymryd â secondiad. Os ydych yn gwneud cais ar sail secondiad, rydym yn argymell eich bod yn trafod hyn gyda'ch rheolwr presennol cyn cyflwyno eich cais.
Cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd a'r Fanyleb Person am fanylion llawn y rôl a'r gofynion.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Mari Jefferis ar 01970 633494 neu drwy e-bost: mari.jefferis@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.