Rydym yn edrych i recriwtio dau Swyddog Comisiynu i ymuno â'n tîm. Mae un swydd yn barhaol, yn gweithio 37 awr yr wythnos, ac mae'r llall yn swydd dros dro am 37 awr yr wythnos i gyflenwi cyfnod mamolaeth. Nodwch yn glir ar eich ffurflen gais pa swydd yr hoffech gael eich ystyried ar ei chyfer.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud cyfnod ar secondiad. Argymhellir eich bod yn cael caniatâd eich rheolwr llinell/cyflogwr cyn gwneud cais er mwyn sicrhau y gallwch ddychwelyd i'ch swydd sylweddol unwaith y bydd y cyfnod secondiad wedi dod i ben.
O ddydd i ddydd byddwch yn:
Rydym am recriwtio unigolyn:
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y di-Gymraeg. Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus sydd angen cymorth i ddysgu/gwella eu sgiliau iaith Gymraeg yn cael cynnig gwersi wedi'u hariannu, yn ystod amser gwaith, i helpu i gyrraedd y safon a ddymunir.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr yma.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gwybodaeth ychwanegol
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion
Cyfweliadau
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn rhithiol. Cynhelir cyfweliadau ar 22/10/2026 a/neu 23/10/2026.
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch naill Alun Davies ar 01545 572659 / Alun.Davies@ceredigion.gov.uk neu Becki Johnson ar 01545 574130 / Rebecca.Johnson@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.