Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig darpariaeth addysgol o'r safon uchaf ac felly rydyn ni'n chwilio am athrawon ysgogol ac effeithiol i ychwanegu at ein cofrestr gyflenwi ganolog.
Cydnabyddir bod athrawon cyflenwi yn hynod o bwysig er mwyn sicrhau parhad addysgu a dysgu effeithiol yn ystod absenoldeb staff. Gall gwaith cyflenwi ddarparu cyfle gwych i athrawon sy'n dymuno mwy o hyblygrwydd neu sydd newydd gymhwyso ac am ennill profiad ymarferol.
Rydym yn chwilio am athrawon sy'n:
Cefnogir hyn trwy ein ethos cyffredinol a phob un o'n hysgolion, ac felly, rhaid i bob aelod staff sydd yn gweithio mewn ysgol gwblhau fodiwl e-ddysgu Diogelu Plant Lefel 1 ynghyd â bod yn gofrestredig gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Daniel Davies ar Daniel.Davies@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.