Cytundeb: Athro/Athrawes Cyfnod Mamolaeth Cymraeg ac Amaethyddiaeth; contract 0.6, Medi 1af 2026 – Hydref 9fed 2026* (*yn ddibynol ar ddiwedd cyfnod mamolaeth)
Rydym yn awyddus i benodi athro/athrawes brwdfrydig ac ymroddgar i ddysgu gwersi i ddisgyblion CA3 a CA4 trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu ac yn cefnogi disgyblion ysgol Gyfun Aberaeron. Bydd yr amserlen yn cynnwys gwersi Cymraeg a gwersi amaethyddiaeth CA4.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru creu cyfleoedd dysgu cyffrous a diddorol ar draws yr ystod gallu gan sicrhau safonau uchel o gyflawniad, ac fe fydd egwyddorion Asesu ar gyfer Dysgu yn sail i’r dysgu ac addysgu. Bydd hefyd yn medru datblygu perthynas gadarnhaol gyda myfyrwyr, staff a rhieni ac yn gwneud cyfraniad i'r ethos tîm sy'n nodwedd gref o'r ysgol.
Disgrifiad Swydd
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.